Skip to the content.

Mae gwaith ymchwil Helen yn y maes graffeg gyfrifiadurol, amgylcheddau rhithwir, canfyddiad gweledol a delweddu data. Mae ganddi BSc (2010) a PhD (2014) mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Bangor. Symudodd i Aberystwyth yn 2014 i weithio fel PDRA ar y prosiect HeritageTogether, i gasglu recordiau digidol 3D o safleoedd archeoleg neolithig Cymru. Yn 2015, dechreuodd weithio fel darlithydd i’r adran. Ers 2016, mae Helen wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm ExoMars Prifysgol Aberystwyth, gan efelychu delweddau o safbwynt yr offeryn PanCam dan arweiniad UCL/MSSL, a datblygu prosesau i gweithio gyda’r lluniau sy’n gael ei dynnu gan PanCam.

O 2019-2023, oedd hi’n arwain prosiect £2.4m CGE Cynhyrchu Cyfryngau Uwch i ddatblygu rhaglen hyfforddiant ol-raddedig, i cefnogi diwydiannau creadigol Cymru drwy hyfforddi gweithwyr proffesiynnol a graddedigion i fanteisio ar dechnolegau newydd ym maes cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau. Cyrraeddodd y prosiect rhestr fer y 2021 Times Higher Education Awards am ‘Menter Cyfnewid/Trosglwyddo Gwybodaeth y Flwyddyn’.

Mae Helen yn aelod o’r BCS, ac mae ar y pwyllgor BCS Canolbarth Cymru. O 2017-2020, Helen oedd cadeirydd y BCSWomen Lovelace Colloquium, cynhadledd i ferched israddedig mewn cyfrifiadureg.